Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2015
Amser: 09.01 -
11.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3283
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|
Tystion: |
Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Alun Jones, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Alun Jones, Cyfarwyddwr Arolygu, Rheoleiddio ac Ymchwilio, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fel rhan o’r ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd.
3.2 Cytunodd Dr Chamberlain i anfon y wybodaeth / eglurhad ychwanegol a ganlyn ar:
· Nifer yr adroddiadau a dderbyniodd AGIC gan Gynghorau Iechyd Cymuned yn rhanbarth Gogledd Cymru ynghylch y 39 o ymweliadau a wnaed yn BIPBC;
· A gafodd gohebiaeth Weinidogol mewn cysylltiad â’r pryderon a godwyd ynghylch ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ei rhannu gyda AGIC;
· Nifer yr adolygwyr lleyg gwirfoddol a recriwtiwyd yn ddiweddar gan AGIC;
· Arbenigedd a sgiliau aelodau’r Bwrdd Cynghori, a
· Dadansoddiad, yn ôl mis, o nifer yr adroddiadau nad oedd yn cyrraedd y dyddiad cyhoeddi targed o uchafswm o dri mis yn dilyn yr arolygiad.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law.